Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn

18:00, 8 Tachwedd – 12:00, 24 Rhagfyr

AM DDIM

Ymunwch â ni ar noson 08/11/24 am 18:00yh i agoriad Ffair Grefftau Nadolig Oriel Môn.
Eleni mae’r Ffair Grefftau yn fwy cyffrous nac erioed gyda dros 40 o grefftwyr o bob cwr o Gymru’n arddangos a gwerthu eu gwaith.
Mae amrywiaeth o crefftwyr yn cynhyrchu eitemau unigryw wedi’u gwneud â llaw ac o’r ansawdd gorau. Mae dewis amrywiol o eitemau, yn cynnwys gemwaith, cerameg, gwaith coed, gwydr, llechi, tecstilau ac addurniadau Nadolig. P’un a ydych yn chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig neu rywbeth bach i chi eich hun, gallwch brynu eich holl anrhegion Nadolig yn Oriel Môn.