Mae Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen yn siomedig iawn i rannu ein bod, oherwydd y gwyntoedd cryfion a’r glaw a ragwelir, wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo Ffair Nadolig Llandysul a drefnwyd ar gyfer y dydd Sadwrn hwn.
Gwyddom faint o ymdrech y mae busnesau, sefydliadau ac unigolion wedi’i rhoi i baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn, ac mae’n wir ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Fodd bynnag, mae yna ychydig o hwyl yr ŵyl i’w fwynhau o hyd! 🎅✨
- Bydd Groto Siôn Corn yn Neuadd yr Eglwys yn mynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd rhwng 2:00 a 4:30 PM.
- Lleoedd dal ar gael – ffoniwch 01559 363874 i archebu!
- Os ydych chi eisoes wedi archebu, bydd Siôn Corn yn edrych ymlaen i’ch gweld chi yno!
- Cofiwch fod parcio am ddim ar ddydd Sadwrn!
- Mae’r gwaith o feirniadu’r Ffenestr Nadolig a’r Tŷ Nadolig Gorau yn dal i fynd rhagddo hefyd, a bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yma ar y wefan yn fuan.
Yn olaf, rydym yn annog pawb i gefnogi siopau lleol bendigedig Llandysul dros yr ŵyl – mae cymaint i’w ddarganfod yma yn ein cymuned.
Diolch am eich dealltwriaeth, a gobeithio y cewch chi gyd Nadolig hapus a diogel.