Ffair Nadolig Llyfrgell Genedlaethol Cymru

17:09, 4 Rhagfyr

Am Ddim

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Nos Fercher 4 Rhagfyr 2024

Ymunwch â ni i fwynhau naws yr Ŵyl!

Bydd cyfle i siopa am nwyddau chwaethus yn ein ffair grefftau ac yn siop y Llyfrgell a mwynhau lluniaeth ysgafn o roliau twrci poeth a mins peis yng Nghaffi Pen Dinas.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd â’n gwestai arbennig, Siôn Corn.

Bydd y Llyfrgell yn llawn bwrlwm y Nadolig ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu’r Ŵyl gyda chi yn ein Ffair.