From “A Tolerant Nation?” to an “Anti-Racist Nation?” The Politics of Race Equality in Wales

17:30, 18 Hydref

Am ddim

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2024
Yr Athro Charlotte Williams OBE FLSW

Mae eleni’n nodi 25 mlynedd ers y setliad datganoli lle gosodwyd cydraddoldeb hil yn ddyhead cyfansoddiadol.

Yn y ddarlith hon mae’r Athro Charlotte Williams yn ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb hil yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Mae’n awgrymu bod cyfnod datganoli yn rhannu i dri chyfnod gwahanol, pob un wedi’i seilio ar ragdybiaethau a dulliau newid: ond a yw llywodraethau yn gallu llywio a chynnal cyfiawnder hiliol?

Bydd yr Athro Williams hefyd yn lansio ei chyfrol newydd, a gyd-olygwyd gyda’i chydweithiwr Neil Evans, Globalising Welsh Studies, decolonising history, heritage, society and culture, 2024, Gwasg Prifysgol Cymru.