Hen Galan yn y Vale

19:30, 13 Ionawr 2024

Dewch i ddathlu’r Hen Galan gyda’r Fari Lwyd yn y Vale!

Defod sy’n gysylltiedig â’r Flwyddyn Newydd yw’r Fari Lwyd.

Bydd grŵp yn cario penglog ceffyl wedi ei addurno o dŷ i dŷ, a chynnal gornest o ganu penillion neu bwnco er mwyn cael mynediad i’r tŷ.

Bydd y Fari Lwyd yn ymweld â Thafarn y Vale nos Sadwrn 13 Ionawr 2024.

Bydd y noson yn dechrau am 7:30pm a bydd sesiwn werin yn dilyn. Croeso i bawb! Os am ymuno â’r Fari rownd y pentre o flaen llaw, ebostiwch cysylltu@tafarn.cymru