Gardd a Natur

10:00, 24 Hydref

Dewch i Tŷ Mawr Wybrnant ar 24 Hydref i gymryd rhan mewn sesiynau difyr, hwyliog ac amrywiol gyda natur a phlanhigion yn ganolbwynt i bopeth. O blannu cennin Pedr brodol ac ymchwilio i blanhigion yn y sesiwn bore i greu gwaith celf natur yn y sesiwn prynhawn, mae yna digon i’w wneud!

Mae yna le i 10 ar gyfer pob sesiwn a bydd angen archebu lle. Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y sesiwn bore yn unig, y sesiwn prynhawn yn unig neu ar gyfer y ddau sesiwn.

I wneud hynny, ebostiwch Judith@mentrauiaith.cymru neu ffoniwch 07967115508 os gwelwch yn dda.

Yn cael ei gynnal gan Gwreiddiau Gwyllt – Menter Iaith Conwy.