Os yw pobl yn dymuno, mae croeso iddynt brintio allan neges bersonol fel poster A4 – gan ddewis delwedd,cerdd, geiriau sy’n ysbrydoli heddwch, gobaith ayb – a dod a fe gyda nhw dydd Sadwrn i’r bandstand.
Byddem yn ddiolchgar pe bai gennych fodd i allu printio ychydig gopiau o’r poster atodol
a’u dosbarthu – yn ogystal â rhannu’r neges/poster mewn ebost/cyfryngau cymdeithasol.
Gadewch i ni yrru neges gref, drwy ein gweithred heddychlon yma yn Aberystwyth fod pobl Cymru yn mynnu cadoediad parhaol a diwedd i’r hil-laddiad a bod ein traeth ni yn
estyn ei ddwylo draw i draeth Gaza.