Ydych chi’n chwilio am weithgaredd hwyl i ddiddanu’r plant dros Wyliau’r Pasg?
Mae Golff Giamocs Heol-y-Parc Porthmadog ar agor tan y 5ed o Ebrill ac ar gael i bob oed.
Mae’r cwrs ar agor o 10:00 – 18:00, a’n pris rhesymol i Oedolion yw £3.50 a Phlant yn £2.50.
Rydym yn derbyn taliadau cerdyn yn unig ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Dewch draw i gael hwyl boed law neu hindda!!