GORYMDAITH DYDD GŴYL DEWI CAERNARFON

13:15, 1 Mawrth

AM DDIM

Gorymdaith DYDD GŴYL DEWI – CAERNARFON

Dewch draw i Dre’r Cofis i ddathlu Dewi Sant ar Fawrth y cyntaf. Ni’n gaddo côr a band pres, draig fawreddog a band martsio- mi fydd Mr Urdd yno a bydd Siân Gwenllian AS yn annerch y dorf ar y Maes. Mi fydd ambell i syrpreis arall hefyd…..

……Felly dewch i’r Cei Llechi erbyn 01:15 amser cinio dydd Gwener Mawrth 1af i ymuno yn yr orymdaith fer rownd y castell ac i’r Maes!!