Y Grefft o Rwydweithio

09:30, 16 Hydref

Ymunwch â ni am ddigwyddiad arbennig yn Ganolfan Tabor. Bydd Angharad Harding yn ein tywys trwy’r byd cyffrous o rwydweithio, a byddwn yn dysgu strategaethau effeithiol i greu cysylltiadau gwerthfawr.

Bydd y sesiwn hon yn gyfle i bobl broffesiynol sy’n siarad Cymraeg ddod at ei gilydd i ddysgu am fanteision rhwydweithio, cwrdd ag unigolion o’r un anian ac ehangu eu sgiliau busnes. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael, felly cyntaf i’r felin caiff falu.

Mae’r sesiynau yma yn cael ei ariannu drwy brosiect Llwyddo’n Lleol sy’n rhan o Raglen ARFOR. Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru drwy’r cytundeb cydweithredol a Phlaid Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.

Un o brosiectau Rhaglen ARFOR yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid. Mae prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei weinyddu ar y cyd gan Mentera a Menter Môn.