Mae’r Gofod Gwnïo yn ôl yng Nghanolfan Cefnfaes ar ei newydd wedd. Cychwyn ar 31 Ionawr, bydd ein clwb crefftau cymunedol yn cyfarfod bob yn ail nos Fercher o 7-9 i gynnig gofod cyfeillgar, cymdeithasol i wneud ychydig o grefftau.Bydd peiriannau gwnïo ar gael i’w defnyddio ac er y bydd gwnïwyr mwy profiadol wrth law i gynghori os oes angen, ni fydd hwn yn ddosbarth gwnïo. Mae croeso i bob math o brosiectau crefft – o frodwaith i grosio, “punch needle” i uwchgylchu dillad.Mae’r grŵp hwn ar gyfer 15+ oed. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gofod@ogwen.org – gobeithio gweld chi yno!