Gwahoddiad i gynllunio Priodas

18:30, 26 Ionawr 2024

Ydach chi’n edrych ymlaen i drefnu eich priodas? Neu dathlu penblwydd priodas/adnewuddu addewidion…neu bendithio priodas sifil? Ydach chi wedi meddwl am gynnal eich dathliad yn un o’ch egwlysi lleol? Mae 6 eglwys o fewn Fro Ogwen ( Glanogwen, Bethesda; Gelli, Tregarth; St Cedol, Pentir; St Cross Talybont; St Tegai, Llandegai; St Ann & St Mary, Mynydd Llandygai) a bydd ein ficer a’ch Caplan Bro yn hapus iawn i cwrdd a trafod eich achlysur arbennig. Un cyfle yn dilyn diwrnod Santes Dwynwen, a’r llall yn dilyn Sant Ffolant:

Dydd Gwener  26ain o Ioanwr, 6:30 yn Eglwys Gelli, Tregarth

Dydd Gwener 16eg o Chwefror, 6:30 yn Eglwys Gelli, Tregarth