Gweithdy Celf a Cerdd gyda Elin Alaw

14:00, 21 Medi 2024

Am Ddim

Mae iechyd a diwylliant wrth galon gwaith Elin Alaw. Yn y gweithdy yma, bydd Elin yn ein tywys i ddewis lliwiau a geiriau sy’n gweddu i’w gilydd i’r dim. Cawn hefyd gip ar Bont Menai o safbwynt y bardd, Dewi Wyn o Eifion, a’r rhesi o englynion ’sgwennodd o amdani.  Addas i blant 9-12 oed, ond dewch ag oedolyn efo chi er mwyn i bawb gael rhannu sgwrs a syniadau, a dysgu drwy’n gilydd.