Ydych chi a’ch plant eisiau gweithgaredd i gymryd rhan ynddo drwy gyfrwng y Gymraeg? Os ydych dewch draw i sesiwn dweud stori a chreu chrefftau, Mabinogi Calan Gaeaf yma yn Arad Goch ar y 27ain o Hydref!
Bydd sesiwn yn addas i rieni gyda babanod 3-6 oed, yn rhedeg o 11:00 tan 12:15 lle fydd storïwr proffesiynol Manon Prysor yn darllen stori y Bwmpen Fawr, ag yn eich helpu creu crefftau Calan Gaeaf! Ag o 13:00 tan 15:00 fydd sesiwn dweud stori Mabinogi, Pwyll Pen Annwn gyda sesiwn creu crefftau yn dilyn! Fydd y sesiwn yma yn fwy addas i rhieni gyda plant o’r oedrannau 7+. Felly dewch yn llu i Ganolfan Arad Goch ar y 27ain o Hydref, am amser werth chweil gyda eich plant, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg i gyd AM DDIM!
Diolch yn fawr i Brosiect Arfor am yr Arian Grant sydd wedi ein caniatáu i gynnal mwy o sesiynau i rhieni a’i plant cael gwneud gyda’i gilydd!
Cysylltwch a post@aradgoch.org neu ffoniwch 01970 617998 i archebu eich lle.