Gwyddgig

10:00, 15 Mehefin

Am ddim

Gŵyl Gymunedol Gymraeg newydd yn Yr Wyddgrug yw Gwyddgig sy’n ddathliad diwylliannol a chelfyddydol gyda cherddoriaeth byw, gweithdai i deuluoedd a phobol ifanc, sgyrsiau i ddysgwyr a mwy.

Felly dyma estyn gwahoddiad i chi i ymuno yn y bwrlwm ar Sgwâr Daniel Owen ar 15fed Mehefin 2024 – ar hyn oll am ddim!

Bydd gweithdai a gweithgareddau o bob lliw a llun yn yr adeiladau cyfagos gan gynnwys y Llyfrgell, Canolfan Daniel Owen, Neuadd y Seiri a Neuadd Eglwys y Santes Fair.  Mae llefydd yn gyfyng ar rai o’r gweithdai felly rhaid archebu tocyn AM DDIM i sicrhau lle ar y sesiynau isod drwy ymweld a gwefan docynnau’r fenter

  • Tylino Babi gyda Cymraeg i Blant
  • Symud Gyda Tedi gyda Hanna Medi
  • Gweithdai DJ gyda DJ Dilys

https://www.ticketsource.co.uk/menteriaithffaw

Bydd hefyd gweithdai yn Adeilad Dewi Sant (Theatr Clwyd) ger y sgwâr gan gynnwys;

  • Gweithdy Creadigol i’r Teulu
  • Gweithdy Creadigol i Blant Hŷn

Archebwch drwy wefan Theatr Clwyd – https://www.theatrclwyd.com/cy/take-part/workshops, neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01352 344101