mae’r flwyddyn wedi bod yn anodd i lawer o bobl, felly mae’n hen bryd i ni gael ’chydig o newyddion da! Dyma cyfle i ddathlu newyddion da y Nadolig trwy neges yr angylion yn Stori’r Geni. Fydd angylion yn ymddangos ar hyd y stryd yn ystod Rhagfyr- a mae ’na chroeso i chi greu rhai hefyd.
Mae ’na groeso i chi wisgo i fyny fel angylion, a dod a’ch gwaith celf gyda chi i osod ar yr Angel Anferth fydd tu allan i Eglwys Glanogwen.
Cychwyn yn Llys Dafydd, canu carolau a cherdded i fyny’r stryd a gorffen yn Eglwys Glanogwen gyda fwy o charolau a diod poeth & mins peis ayb
Bydd ymarfer carolau yn digwydd bob nos Iau, 6-8, rhwng rwan a’r 14eg, ond does dim rhaid i chi wedi bod yn ymarfer – jest dewch!
Hwyl i’r teulu, plant mawr a bach
Cysylltwch â Parch Sara Roberts am fwy o fanylion: 07967652981/ sararoberts@churchinwales.org.uk