Ar gyfer yr Ŵyl Archaeoleg yn Sain Ffagan, byddwn yn dathlu un o’r canfyddiadau archaeolegol mwyaf defnyddiol a chyffredin – potiau!
Mae potiau yn aml yn cael eu darganfod mewn cloddiadau archaeolegol ac maen nhw’n gallu dweud llawer am y bobl oedd yn eu defnyddio.
Dewch i drin a thrafod potiau Rhufeinig go iawn a gwneud eich pot bach arddull Oes Efydd eich hunain.
Cafodd y cwpanau bach hyn eu haddurno â llaw gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, felly bydd eich un chi yn hollol unigryw!
Mae gwneud pot yn weithgaredd Talu Beth Allwch Chi gydag isafswm cyfraniad o £1.
Bydd y gweithgaredd hwn yn y Gweithdy.