Gŵyl Gwenllian

7 Mehefin – 9 Mehefin

Ar Fehefin 12fed byddwn yn dathlu Gwenllian – merch Llywelyn (tywysog olaf Cymru). Cafodd ei herwgipio yn faban a’i magu mewn lleiandy yn Sempringham, Lincolnshire.

Mae cyfres o weithgareddau cymunedol yn canolbwyntio ar ddathlu merched y Carneddau yn cael eu trefnu i goffau’r Dywysoges Gymreig, i’w cynnal rhwng dydd Gwener 7fed o Fehefin a dydd Sul 9fed o Fehefin. Bydd manylion yr holl weithgareddau a diweddariadau yn cael eu rhannu trwy’r grŵp Facebook hwn. Rydym yn hynod o falch am gydweithio gyda chymaint o bartneriaid, yn cynnwys; Partneriaeth Ogwen, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Siop Ogwen, Adra, Hwb Ogwen, CARN, GwyrddNi a Llen Cymru.