Gŵyl a Gwledd

11:00, 12 Chwefror – 16:00, 16 Chwefror

Am ddim

Sesiynau galw heiebio: 11yb – 1yh & 2yh – 4yh

Ymunwch â ni dros hanner tymor i ddysgu mwy am wyliau a gwleddoedd yn y byd Rufeinig.

Beth sydd i’w wneud?

Dewch yn Rhufeiniwr cyfoethog – gwisgwch toga, mwynhewch adloniant Rhufeinig, a galwch y caethwas draw gyda phryd blasus o lygod daear.*

Gwnewch dorch o flodau papur i wisgo i’r wledd, neu ddilyn y daith gwyliau a gwleddoedd o amgylch yr Amgueddfa.

Sganiwch y cod QR i lawrlwytho llyfryn ryseitiau Rhufeinig er mwyn parhau â’ch antur Rufeinig gartref.

*Dim llygod daear go iawn!

Rhagor o Wybodaeth

  • Bydd hwylusydd dwyieithog yn arwain y digwyddiad ddydd Mercher.
  • Mae’r digwyddiad yn addas i deuluoedd ac mae croeso i bawb gymryd rhan! Efallai y bydd angen help ar blant iau i wneud y dorch bapur.