Mae criw o Aelodau Cynulliad Cymunedol Dyffryn Ogwen wedi bod wrthi’n galed yn trefnu Gŵyl Hinsawdd – un o’r syniadau yn y Cynllun Gweithredu Cymunedol. Bydd gweithgareddau, teithiau a siaradwyr. Canolfan Tregarth, 11:00yb – 16:00yh, AM DDIM.
Cefnogwyd gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.
Dewch draw am sbec! Mwy o wybodaeth, yn cynnwys amserlen siaradwyr, i ddod.