Gwyrfai Gwyrdd – sesiwn taro heibio Caeathro

16:00, 10 Gorffennaf

Sesiwn Taro Heibio i ddeall rhagor am Gwyrfai Gwyrdd a chyfrannu eich syniadau.

POENI AM EICH BILIAU YNNI?

PENDRONI AM NEWID HINSAWDD?

CREDU MEWN CYDWEITHIO CYMUNEDOL I NEWID PETHAU ER GWELL?

Mae Gwyrfai Gwyrdd yn fenter ynni cymunedol fydd yn sefydlu clwb ynni sy’n cynnig trydan rhatach (25%+) trwy ddefnyddio ynni hydro a solar lleol.

Cysylltwch efo Dafydd Davies ar 07841 764044 neu dafydd.davies@gwyrfaigwyrdd.cymru