Bydd rhaglen ddogfen hynod ddifyr o’r enw ‘Dyddiau Dyn – Newid Tŷ’ (S4C) o 1988 sydd yn cofnodi’r adfer sylweddol a fu yn Tŷ Mawr Wybrnant yn cael ei ddangos ar y safle.
Bydd y rhaglen yn cael ei ddangos ar yr awr o 10am ymlaen (dangosiad olaf am 3pm), gyda detholiad o luniau a dogfennau eraill o’r archif ar gael i’w gweld ar y diwrnod hefyd.