Hel Hanes Gerlan dros baned a sgwrs

10:00, 26 Hydref

Dewch i’r Caban i rannu eich straeon am y pentref, Ysgol Gerlan a’r neuadd. Cyfle i sgwrsio a chymdeithasu dros baned. Dewch ac unrhyw luniau sydd gennych yn cuddio’n y tŷ efo chi. Gadewch i ni wybod os ydych chi angen cludiant ac fe geisiwn ein gorau i drefnu lifft draw i chi. Am fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu gyda mi, Caren Brown, dros e bost (carenelaine@hotmail.com) neu ffonio 07789916166, Edrychwn mlaen i’ch gweld.