Hanes Y Streic Fawr ym Mynydd Llandygai a Rhiwlas

19:00, 8 Tachwedd

Mae Pwyllgor Neuadd Goffa Mynydd Llandygai ar y cyd efo Menter Iaith Bangor a LleCHI LleNi yn cyflwyno noson am hanes Y Streic Fawr ym mhentrefi Mynydd Llandygai a Rhiwlas, dan ofal Arwyn Oliver a Cynrig Hughes.

Mae hi’n siŵr o fod yn noson ddifyr dros ben – felly, dewch draw i’r Neuadd erbyn 7 yr hwyr. Mi fydd cyfieithu ar y pryd ar gael, a lluniaeth ysgafn i ddilyn.