Datryswch y posau yn ein Helfa Basg er mwyn hawlio eich siocled blasus!
Bydd tair her llawn hwyl ar eich cyfer!
1. Dewch i gyfri…
Mae gan bob un o’r cwningod cudd fasged o wyau. Sawl ŵy sydd yn eu basgedi? Ysgrifennwch y rhif yn yr ŵy gwag ar y daflen.
2. Gweld y Gwahaniaeth… defnyddiwch eich llygaid craff i weld y gwahaniaeth rhwng gwahanol gwningod yr Amgueddfa.
3. Yr Ŵy Aur… ac i chi dditectifs gwerth eich halen, allwch chi ddod o hyd i’r ŵy aur bach iawn iawn sy’n cuddio yn yr amgueddfa?
£4 yr helfa – yn cynnwys gwobr siocled.
Prynwch eich tocynnau heddiw i osgoi cael eich siomi! Archebu ar-lein yn unig