Ymunwch â ni ar nos Lun 2il o Ragfyr am 6yh yn Galeri, Caernarfon, am weithdy unigryw gyda Gwilym Dwyfor – cyn-olygydd Y Selar – lle byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu adolygiadau cerddoriaeth o safon.
Digwyddiad arbennig i bobl â diddordeb mewn cerddoriaeth a chyfle i leisio’ch barn
Gwin cynnes a mins peis AM DDIM i bawb sy’n mynychu!
Lleoliad: Galeri Caernarfon, LL55 1SQ
Cofrestwch yma :- https://www.eventbrite.com/e/hoffi-trafod-tiwns-tickets-1091222117729?aff=oddtdtcreator
Diolch am gefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru a Cymru Greadigol, sy’n ein galluogi i gynnal y digwyddiadau yma’n rhad ac am ddim, yn rhan o’n prosiect Arfogi Lleisiau Newydd