Cylch Llyfryddol Caerdydd

Bydd y Prifardd Carwyn Eckley, enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol 2024, yn cael ei holi gan Dr Dylan Foster Evans yn Ystafell 0.31, Adeilad John Percival, Safle Rhodfa Colum, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU, nos Wener, 20 Medi, am 7.15pm.

Dyma gyfarfod agoriadol y Cylch Llyfryddol am y gaeaf. Y tâl aelodaeth yw £10 y flwyddyn.

Am fanylion pellach, cysylltwch â’r Ysgrifennydd, yr Athro E. Wyn James (JamesEW@caerdydd.ac.uk).

Croeso cynnes i aelodau hen a newydd.