Hunting and Haunting: Witches and Witch Hunts Through the Ages

17:00, 31 Hydref

Am ddim

Ymunwch â’r awdur a’r hanesydd Phil Carradice ar gyfer y cyflwyniad arbennig hwn ar ddewiniaeth – o’r cyfeiriad cyntaf a gofnodwyd yn y cyfnod Neolithic i wrachod a dewiniaeth heddiw.

Yn ffocysu’n bennaf ar y cyfnod modern cynnar rhwng 1400 a 1750, bydd y cyflwyniad yn edrych ar sut cyhuddwyd dros 100,000 o bobl yn Ewrop o ddewiniaeth – gyda’r mwyafrif yn cael eu dedfrydu i farwolaeth heb fawr ddim tystiolaeth. Yn ystod y digwyddiad yma, bydd Phil yn archwilio’r anghyfiawnder hyn ac yn edrych ar y ffactorau a arweiniodd i hyn ddigwydd.

Allan o’r 100,000, lladdwyd oddeutu 6,000 ar draws Lloegr a’r Alban. Ond, dim ond pump cafodd ei gyhuddo a’i lladd yng Nghymru. Pam oedd cymaint o wahaniaeth rhwng y gwledydd cyfagos?

Bydd Phil hefyd yn trafod dewiniaeth fodern, gyda’r ffenomenon yn parhau ar draws Affrica, America Ladin a’r byd drosodd.

Digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg.