Jingle Bells and Elves: Nadolig yn yr Amgueddfa

10:00, 30 Tachwedd – 17:00, 1 Rhagfyr

Am ddim

Mae’r Nadolig ar y gorwel! Ymunwch â ni o 30 Tachwedd i 1 Rhagfyr am benwythnos llawn hwyl yr ŵyl i’r teulu.

Crefftau Corachod: 

Ydych chi’n barod i ddod yn un o gorachod hud Siôn Corn? Mae’r gweithdy yn addas i bob oed, ac yn gyfle i bawb droi eu hunain yn gorachod gwych! Byddwch chi’n creu a het chlustiau corrach traddodiadol, ffon glychau, ac addurn eira i’w hongian ar y goeden Nadolig.

£6.50 y plentyn i gwblhau’r tair elfen grefft

30 Tachwedd – 1 Rhagfyr | 10am – 3pm

Taith Antur Corachod:

Ewch i chwilio’r Amgueddfa am gliwiau’r corachod. Yna, dewch â’r llyfryn yn ôl i’r Brif Neuadd i hawlio Gwobr Nadoligaidd! 

£4 y llwybr

Canllaw oed: 4+

30 Tachwedd – 1 Rhagfyr | 10am – 3pm

Sesiwn Stori Nadoligaidd gyda Babis Bach Babies

Ymunwch â Babis Bach Babies ar gyfer sesiwn stori ddwyieithog a cherddoriaeth fyw wedi’i seilio ar stori ‘Annwyl Santa’. 

Helpwch ni i agor anrhegion Nadolig Siôn Corn nes canfod yr anrheg ‘perffaith’. 

Bydd y sesiwn yn cynnwys, pypedau, canu, offerynnau cerdd, a’r cyfle i chwarae offeryn cenedlaethol Cymru – y delyn. 

Beth am greu addurn Nadolig arbennig gyda’ch plantos bach, i’w drysori a’i hongian ar y goeden. 

£12.50 ar gyfer un oedolyn ac un plentyn

1 Rhagfyr | 10am – 11am | 11.15am – 12.15pm

Marchnad Nadolig Crafty Legs:

Dewch i ddarganfod amrywiaeth o stondinau yn gwerthu nwyddau ac addurniadau Nadolig wedi’u gwneud â llaw, bwydydd cartref, a mwy o syniadau unigryw. Cyfle i ganfod anrheg arbennig i anwyliaid (neu’r presant perffaith i’ch hun!).

30 Tachwedd – 1 Rhagfyr | 10am – 5pm

Am ddim