Drama un person am Kate Roberts – gwerinwraig genedlaetholgar a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Er fod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebel styfnig oedd Kate yn y bôn – dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion.
Porteadir Kate gan Sera Cracroft – wyneb cyfarwydd i wylwyr Pobl y Cwm.
Ymunwch â ni am baned a sgwrs yn dilyn y perfformiad.
Tocynnau ar werth yn Siop Llangeitho, ar y drws ar y noson ac ar Ticketsource.