Kiri Pritchard Mc-Lean: Peacock

19:30, 7 Rhagfyr

£14 / £16

Mae seren 8 out of 10 Cats Does Countdown Have I Got News For You QI , Kiri Pritchard-McLean wedi bod yn brysur iawn. Yn ogystal â chyflwyno Live at the Apollo , ac arwain sioe banel Radio 4 Best Medicine a dechrau ysgol gomedi, daeth yn rhiant maeth.

Wyddech chi ddim? Wel, tan nawr doedd hi ddim yn cael siarad amdano ar y llwyfan, dyw hi ddim hyd yn oed wedi dweud wrth y plant dan ei gofal ei bod hi’n ddigrifwraig. O, ac mae hi’n arddel enw gwahanol – hi yw Bruce Wayne y byd comedi ond heb y plastai.

Fodd bynnag, newidiodd rhywbeth eleni ac ar ôl rhai o gigs mwyaf pigog ei gyrfa mewn ystafelloedd bwrdd i weithwyr cymdeithasol mae sioe am ddod yn ofalwr maeth yn yr arfaeth! Felly, dewch i ymuno â “Louise” wrth iddi godi’r caead ar weithwyr cymdeithasol, hyfforddiant cymorth cyntaf a’r hyn na ddylech ei wneud pan fydd ficer yn chwilio amdanoch ar YouTube.

Ymunwch â chyd-grëwr a chyd-gyflwynydd y podlediad cwlt poblogaidd All Killa No Filla am sioe lawen a chyffrous gan ddigrifwraig sy’n adnabyddus am greu “stand-yp grymus o’r pynciau mwyaf dyrys” (The Guardian).

Canllaw Oed: 15+