Lansiad cyfrol o farddoniaeth gan Christine James

19:00, 6 Rhagfyr 2024

Lansiad cyfrol newydd o farddoniaeth gan Christine James

Bydd yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood, yn holi’r cyn-Archdderwydd Christine James am ei chyfrol newydd o farddoniaeth, rhwng dau feddwl, yng Nghlwb Tennis yr Eglwys Newydd, Heol Sant Ffransis, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1AW, nos Wener, 6 Rhagfyr 2024, am 7.00pm. Cyhoeddir y gyfrol gan Gyhoeddiadau Barddas. Croeso cynnes i bawb.