Sut ma’ negodi labrinth tywyll patriarchaeth tra’n ymestyn am y sêr?
Dathliad swreal ag eto cwbwl berthnasol o fywydau menywod yn eu holl amrywiaeth rhyfeddol – y cyfrinachau a’r celwydd, yr hud a’r lledrith, y mislif a’r menopôs.
Noson sy’n addo bod yn eithafol o emosiynol, weithiau’n hilariws, o bryd i’w gilydd yn ddirdynnol ond bob amser yn ddifyr.
Dewch i wrando ar y Shinani’n Siarad yng nghyfieithiad Sharon Morgan o The Vagina Monologues gan Eve Ensler.
Yn cefnogi ymgyrch Cymorth i Ferched Cymru i greu byd lle gall menywod a phlant fyw’n rhydd o gamdrıniaeth yn y cartref a phob math o drais.
Cynhelir yn Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Drysau am 7.30pm.