Cyfle i weld rhai o gasgliadau Amgueddfa Cymru o anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol megis mwydod môr, cregyn, crancod a chimychiaid, a dysgu am yr ymchwil sy’n cael ei wneud y tu ôl i’r llenni i fapio bywyd môr Cymru.
Bydd yr ymweliad hwn yn mynd â chi i’r storfa hylif, lle rydyn ni’n cadw’r casgliadau anifeiliaid di-asgwrn-cefn morol, a gallwch chi ddysgu sut mae ein gwyddonwyr yn darganfod ac yn disgrifio rhywogaethau newydd.