Tu ôl i’r Llenni: Cadwraeth celc o’r ganrif 1af OC

14:00, 29 Hydref

£8

Dewch ar daith i’r labordy cadwraeth archaeoleg i weld y gwaith diweddaraf ar y celc o lestri Oes Haearn a Rhufeinig o’r ganrif gyntaf OC. Cafodd y celc ei ganfod yn sir Fynwy, a’i godi fel un darn o bridd a’i gludo i Amgueddfa Cymru i’w astudio yn y labordy.

Gwybodaeth Bwysig

  • Bydd y daith yn para tua 45 munud. Cwrdd wrth y Ddesg Docynnu yn y Brif Neuadd.   
    Mae’r daith yn costio £8 y pen.   
    Bydd y daith yn cael ei chynnal ym mamiaith y curadur, sef Saesneg.   
    Oherwydd natur tu ôl i’r llenni’r daith, bydd rhai gofodau lle byddwch chi’n agos iawn at ymwelwyr eraill a’r curadur.   
    Allwn ni ddim rhoi ad-daliad ar gyfer tocynnau, a fyddwn ni ddim yn ad-dalu neu’n cyfnewid tocynnau i bobl sy’n cyrraedd yn hwyr.