Tu ôl i’r Llenni: Nadroedd, madarch a’r tylwyth teg – hud a lledrith ffosilau

14:00, 31 Hydref

£8

Fossil 2.tif

Cyn bod pobl yn deall taw olion anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol yw ffosilau, bydden nhw’n creu straeon rhyfeddol i’w hesbonio nhw.  Roedd rhai pobl yn credu fod gan ffosilau bwerau hudol allai warchod eich cartref.  

Ar y daith byddwch chi’n cael cip ar storfeydd ffosilau’r Amgueddfa, a chyfle i weld ffosilau oedd yn gallu gwarchod rhag mellt, nadroedd carreg, a sut oedd ‘fairy loaves’ yn helpu i fwydo’r teulu.