Tu ôl i’r Llenni: Offer carreg cynhanesyddol o Ogofau Cymru

11:00, 20 Tachwedd

£8

Cyfle i weld offer carreg cynhanesyddol o gasgliad Amgueddfa Cymru, a dysgu am waith cloddio hanesyddol yn ogofau Cymru. 

Bydd yr ymweliad hwn yn mynd â chi i’r ystafell astudio arteffactau Archaeolegol, sef lle rydyn ni’n darganfod mwy am y casgliadau archaeolegol. 

Byddwch chi’n dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i ymchwilio, cofnodi a dogfennu offer, gan gynnwys rhai eitemau sy’n 230,000 o flynyddoedd oed, a gafodd eu creu gan Neanderthaliaid a’u canfod yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych.