Lansiad cyfrol o straeon byrion.

Ymunwch â gwasgnod Sebra wrth inni ddathlu cyhoeddi cyfrol o straeon byrion newydd sbon: Ar amrantiad. Yn dilyn cystadleuaeth stori fer a gynhaliwyd yn gynharach eleni, dewisodd Dr Gareth Evans-Jones y tair stori fuddugol ac maent wedi cael eu cynnwys mewn cyfrol ochr yn ochr â straeon gan awduron cyhoeddedig, gan gynnwys Jon Gower, Fflur Dafydd, Sian Melangell Dafydd (Ysgrifennu Creadigol Saesneg ym Mangor) a Gareth Evans-Jones. Mae’r gyfrol yn llawn gweithiau diddorol a lleisiau arbennig, a bydd hwn yn ddathliad gwirioneddol yng nghwmni amryw o’r cyfranwyr.