Lliwio naturiol gyda phlanhigion yr ardd

10:30, 12 Hydref

£80 | £65 Gostyngiad

Croeso i fyd bendigedig lliwio naturiol. 

Mae planhigion wedi cael eu defnyddio ers miloedd o flynyddoedd i liwio ffibrau mewn amrywiaeth anhygoel o liwiau, o’r ysgafn i’r llachar. Byddai rhai planhigion wedi tyfu’n wyllt tra bod eraill wedi’u plannu’n arbennig. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno egwyddorion lliwio naturiol, a byddwch chi’n creu lliwurau botanegol o blanhigion a rhiniau i liwio samplau ar wlân, a dysgu sut i addasu lliwiau. Bydd nodiadau ar ryseitiau i fynd adref gyda chi. Bydd yr holl ffibrau’n cael eu paratoi ymlaen llaw (a’u trin gyda mordant).

Mae’r diwrnod llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr pur. Darperir holl offer, deunydd a dillad diogelwch – ond bydd diferion ym mhobman, felly gwisgwch ddillad addas. 

Caiff menig (heb latecs), ffedogau a gogls eu darparu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Darperir lluniaeth ysgafn. Mae croeso i chi ddod â phecyn bwyd neu ymweld â’n bwytai a chaffis ar y safle.  

Rhaid prynu pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn ymlaen llaw.  

Iaith

Cynhelir y cwrs yn Saesneg. 

Cyfyngiad Oedran

16+. (Rhaid i blant o dan 18 oed fod yng nghwmni oedolyn 18+ sy’n cymryd rhan)

Hygyrchedd

Mae ein gofod addysg yn gwbl hygyrch. Cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk ymlaen llaw i drafod unrhyw ofynion hygyrchedd.  

Defnyddiwch SA44 5UP ar gyfer llywio lloeren. 

Canllawiau Iechyd a Diogelwch i fyfyrwyr y cwrs

Mae’n bosib bydd llwch o blanhigion wedi’u sychu. Rhowch wybod i’r tiwtor ar y diwrnod os oes gennych chi sensitifrwydd anadlu a bod angen i chi sefyll y tu allan i’r ardal waith. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio gwlân, felly cadwch hyn mewn cof os oes gennych chi alergedd i wlân/lanolin.