Gwreiddiau Mabon Roots

17:00, 5 Hydref

£5

Dewch i ddathlu Mabon efo ni yn y mynyddoedd.

“Mabon / Cyhydnos yr Hydref: gŵyl paganaidd sy’n dathlu diwedd yr haf a dechrau’r hydref, amser o gynhaeaf a gwledda gyda’ch cymuned”

Cydweithiad o fiwsig, bwyd, diod – dathlu ein diwylliannau, ein gwreiddiau ag hanfod y cynhaeaf. Cymysgedd o offrymau a wneith chynnal ni drwy’r misoedd gaeafol. Cynhesrwydd ~ symudiad ~ myfrdodau ~ sain ~ gwledda ~ 

Cynigion ar gael:

  • Cawl calonnog (fg)
  • Pei afal
  • Bar + seidr twym a gynhyrchir yn lleol
  • Diodydd poeth
  • Dj reggae

Gweithgareddau:

  • Taith gerdded porthi a thrafodaeth
  • Gweithdy ysgrifennu creadigol
  • Crefftau hydrefol
  • Gweithdy dawns Bullerengue

🎶 Beth yw Bullerengue?
Mae Bullerengue yn draddodiad cerddoriaeth a dawns Affro-Colombiaidd bywiog a llawn egni o arfordir Caribïaidd Colombia. Wedi’i wreiddio yn nhreftadaeth Affrica, mae’r genre hwn yn adnabyddus am ei ddrymio pwerus, ei ganu galw-ac-ymateb, a’i ddawns seremonïol gosgeiddig. Mae’n fynegiant o gymuned, diwylliant ac ysbryd, dan arweiniad menywod sy’n cymryd y llwyfan gyda symudiadau ysgubol a rhythmau cyfareddol.

🎤 Beth i’w ddisgwyl yn y gweithdy?
Rhythm & Chân: Mwynhewch guriadau hudolus drymiau traddodiadol fel yr alegre tambor a’r tambora, ac ymunwch â chanu galw-ac-ymateb dan arweiniad cantorion profiadol.
Dawns: Ymgollwch eich hyn mewn symudiadau llifeiriol dawns Bullerengue, lle daw’r gerddoriaeth a’r camau ynghyd i ddathlu bywyd a diwylliant.
Rueda de Bullerengue: Ar ôl y gweithdy, mwynhewch rueda bywiog (cylch dawns), lle gall pawb brofi llawenydd Bullerengue yn y gymuned!

👣 Dim profiad yn angenrheidiol!
Mae’r gweithdy hwn yn agored i bawb – os ydych chi’n newydd i ddawnsio neu’n symudwr profiadol. Dewch i deimlo’r rhythm, dysgu rhywbeth newydd, a phrofi hud Bullerengue am y tro cyntaf!

Bydd y ddiwrnod spesial yma hefyd yn ddathliad o’r holl waith trwsio sydd wedi digwydd ar Oriel Caffi Croesor dros y flwyddwyn dwethaf (darllenwch fwy am hyn yma). Mae’r prosiect yma wedi’i ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Grymuso Gwynedd, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).