“Yn sydyn aeth popeth yn ddu.” Yn 11 oed, cafodd Faaeza Jasdanwalla-Williams ei tharo gan lori laeth wrth gerdded ym Mumbai. Yn sgil y ddamwain collodd Faaeza y rhan fwyaf o’i golwg, gan newid cwrs ei bywyd yn gyfan gwbl. Gyda chefnogaeth ei theulu, llwyddodd Faaeza i ddilyn ei hangerdd am addysg ac yn y pen draw symudodd i Aberystwyth.
Mae stori Faaeza yn un llinyn unigryw o nifer sy’n creu tapestri amrywiaeth Cymru. Wedi’i hysbrydoli gan ei thaith ei hun, aeth Faaeza ati i ddatgelu 25 o straeon gan ferched sy’n mewnfudwyr, yn ymfudwyr ac yn ffoaduriaid sydd bellach yn byw yng Nghymru.
O archwilio hunaniaeth cwiar i groesi dyfroedd peryglus mewn cychod bach, mae Many Roads yn dod â straeon menywod cryf, dewr ac ysbrydoledig i’r amlwg.
Mae Faaeza Jasdanwalla-Williams yn hanesydd merched Otomanaidd modern cynnar, wedi iddi gwblhau ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Aeth ymlaen i ddysgu modiwl ar hanes yr Otomaniaid yn y Brifysgol am 10 mlynedd.
Digwyddiad drwy gyfrwng y Saesneg.