Marchnad Llambed

10:00, 22 Mehefin 2024

am ddim!

Bydd Marchnad Lambed ar maes parcio Canterbury bore Sadwrn hwn 10.00-13.00 – does dim rhaid i dalu am barcio ar y campws dros y benwythnos.

Fel arfer mae llawer o fasnachwyr bwyd a chrefft: stondinau newydd yw Llyfrgell Lynn Llyfrau Ail-law a Lost in Time: gwregysau lledr a chyweiriadau lledr a chynfas. Gwelwch y dudalen Facebook am restr stondinau.

Bydd Helen a John o Gellan yn canu delyn a gitâr, a mae’r haul yn addo i ddisgleirio. Dewch draw!