Marchnad Llambed

10:00, 12 Hydref

am ddim, yn gynnwys parcio ar y campws

Mae Marchnad Llambed yn digwydd ddwywaith y mis ar yr ail a phedwerydd bore Sadwrn, yn gwerthu bwyd a chrefftau o safon uchel wedi’u cynhyrchu’n lleol.

Mae amryw o fasnachwyr yn siarad Cymraeg a maen nhw’n dangos y logo Llanbed Hapus i Siarad Cymraeg. Mae rhai o fasnachwyr hefyd yn ddysgwyr Cymraeg a byddent yn croesawu’r cyfle i ymarfer gyda’u cwsmeriaid!

Mae rhestr o fasnachwyr ar y tudalen FB, gyda manylion y gerddoriaeth fyw. Heddiw bydd Coland Rise Farm (cig eidion wedi’u bwydo ar borfa) a Dotty Doughnuts yn fasnachwyr newydd, a bydd yr Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru hefyd yma gyda gwybodaeth am sut i achub y Teifi.

Mae Marchnad Llambed wastad yn hapus i groesawu a hyrwyddo masnachwyr lleol newydd. Am ragor o wybodaeth anfonwch e-bost yn lampetermarket@gmail.com.