Bore Sadwrn bydd mwy nag 20 o’r masnachwyr arferol a dau newydd yn cynnig eu nwyddau ar maes parcio Canterbury yn Lanbed. Stondinau newydd yw Foxhill Preserves a Blessed Olive. Bydd cerddoriaeth fyw, diodydd poeth a phitsa. Dewch draw! Mwy o fanylion ar y tudalen FB.
Pam ddylwn ni siopa yn lleol? Buddsoddi’n lleol: mae eich cefnogaeth yn dangos i entrepreneuriaid bod ein cymuned yn fywiog ac yn werth buddsoddi ynddi. Bydd hynny nid yn unig yn cryfhau’r economi lleol, ond yn cyfoethogi beth mae’r gymuned yn ei gynnig ac felly yn gwella’n bywyd ar y cyd.
Dychmygwch gymuned lle bydd eich gwario’n dod yn gatalydd ar gyfer twf, yn ein gwau’n nes at ein gilydd ac yn cyfoethogi’n heconomi lleol.
Dydd Sadwrn bydd Banc Hadau Llambed hefyd yn croesawu hadau a casglwyd gan tyfwyr lleol. Bydden nhw yn yr Adaeilad Canterbury, wrth ymyl y farchnad.