Marchnad i drigolion Dyffryn Nantlle, stondinau amrywiol o safon uchel; Caffi Tylluan yn gwerthu bwyd rhad a maethlon. Bydd sgyrsiau diddorol am gadw gwenyn gan BusyBees o ardal Bangor 10:30 ac 11:30. Rhwng hyn bydd hwyl ar gael wrth ‘Giglo tra’n Siglo’ – dawnsio bol hefo Ramona o’r Groeslon.
Stondin y Mis fydd RNLI a bydd cyfle i gyfnewid gwisg ysgol. Croesi cynnes i chi gyd.