Marchnad Lleu

10:00, 16 Tachwedd

Marchnad o gynnyrch, bwyd a chrefftau lleol i bobol leol Dyffryn Nantlle yn cynnwys sesiwn blasu am ddim gan Helyg Lleu. Caffi yn gwerthu seigiau rhâd a maethlon. Dewch am sgwrs a phanad a chael bore hamddenol ar eich stepan drws.