Bydd y Farchnad yn rhoi naws Nadoligaidd ar 14eg. o Ragfyr hefo stondinau o fwydydd, cynnyrch lleol a chrefftau. Cyfle ichi brynu anrhegion! Bydd lluniaeth ar gael – cyfle ichi gael eistedd dros banad a’r plant wneud addurniadau bach. Unwaith eto mae Wendy am ddod draw i wneud torch – am ddim! Bydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle a Fflur Pierce yno i ganu carolau ac i goroni’r bore mae Côr Makaton yn dod i arwyddo caneuon Nadoligaidd.
Dewch i fwynhau, bydd croeso cynnes i chi gyd.