Marchnad Lleu

09:30, 17 Chwefror

Marchnad fwyd, crefftau a cynnyrch lleol i Ddyffryn Nantlle. Stondinau o pob math, Caffi Tylluan yn gwerthu brecwast a chinio rhad, panad a chacennau. Stondin y Mis fydd Clwb Stroc Mon ac Arfon. Bydd Cyngor Gwynedd yno i roi gwybodaeth am yrru’n ofalus, Clwb Gwneuthurwyr Ffyn Gogledd Cymru yn dangos hen grefft traddodiadol o wneud ffyn cerdded a bydd hyfforddiant diffibliwr ar gael – rhain yn rhad ac am ddim cofiwch! Diolch i’r Loteri Cenedlaethol am ariannu rhain.Dewch draw i gael panad a sgwrs a chael cyfle i ddysgu rhywbeth newydd!