Marchnad o fwydydd, cynnyrch a chrefftau lleol yn Nyffryn Nantlle. Bydd Cyfarfyddiadau Anifeiliaid Dyffryn yn arddangos eu stor o anifeiliaid, DementiaGo yn rhannu gwybodaeth a Stondin y Mis fydd Clwb Peldroed Talysarn. Mae’n amser ‘Spring Clinio’ a chyfle gwych ichi ddod a’ch dillad, bagiau, esgidiau, plancedi draw, ac wedi eu sortio byddent yn cael eu casglu gan Antur Waunfawr. Bydd lluniaeth a chroeso ar gael.