Mae Mattoidz yn dychwelyd i Aberteifi gyda cefnogaeth wrth y triawd ifanc Lafant.
Mynediad yn £5 yn unig ar y drws, drysau 19:00
“Ffurfiodd Mattoidz yn 2002. Wedi eu hysbrydoli gan fandiau’r gorllewin – DOM, Jess, Cerrig Melys ac Ail Symudiad – aeth y band ymlaen i berfformio gigiau ledled y wlad a rhyddhau tair albym rhwng 2005 a 2013. Cymerodd y band saib wedi hynny i wneud pethau pwysicach ond nawr mae’r creisis canol oed wedi cicio mewn a bellach ac mae’r band nôl yn stiwdio Fflach 20 mlynedd wedi’r recordiad cyntaf!” — mattoidz.com
Lafant yw’r triawd Mefin Hughes, Meiddyn Ladd a Sam Howell, y tri yn gyn-aelodau o’r band Gelert. Wedi eu hysbrydoli gan fandiau Britpop y 90au ynghyd â Clapton, The Kinks a’r Monkees a swn y 60au, mae egni ac alawon bachog y band yn mynd i’w gwneud yn fand i’w gwylio dros y flwyddyn nesaf.